Undeb amddiffyn yn Ewrop sy'n canolbwyntio ar bolisïau tramor a diogelwch cyffredin yw Undeb Gorllewin Ewrop (WEU; Western European Union). Cafodd ei ffurfio yn ôl termau Cytundeb Helsinki ym 1999. Ar hyn o bryd mae gan NATO y cyfrifoldeb i weithredu ei benderfyniadau.
Aelod-wladwriaethau'r Undeb yw'r Almaen (ers 1954), Gwlad Belg (ers 1954), y Deyrnas Unedig (ers 1954) yr Eidal (ers 1954), Ffrainc (ers 1954), Gwlad Groeg (ers 1995), yr Iseldiroedd (ers 1954), Lwcsembwrg (ers 1954), Portiwgal (ers 1990) a Sbaen (ers 1990).